Mae Jonathan Scourfield yn Athro Gwaith Cymdeithasol yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, Cymru.
Mae hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr CASCADE, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant. Mae wedi cyflawni corff helaeth o waith ymchwil yn ystod ei yrfa ar bynciau sy’n cynnwys gwasanaethau plant a theuluoedd, gweithio gyda dynion, addysg gwaith cymdeithasol, hunaniaeth a chrefydd ymhlith plant, a hunanladdiad a hunan-niweidio.