Gwneud pobl yn ganolog i atal hunanladdiad yng Nghymru
Mae Canolfan Genedlaethol Cymru ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio yn dod ag arbenigwyr blaenllaw, sefydliadau, a phrofiad bywyd ynghyd i ddeall, atal, ac ymateb yn well i hunanladdiad a hunan-niweidio.
Wedi’i harwain gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a’r Samariaid, mae’r Ganolfan yn ysgogi newid seiliedig ar dystiolaeth i bolisi ac arferion ledled Cymru.
Suicidal thoughts and self-harm can affect anyone. By recognising that these are rarely caused by a single factor, the Centre brings together researchers, services, policymakers, and people with lived experience to improve understanding and create meaningful, lasting change.
Wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’n canolbwyntio ar gynhyrchu tystiolaeth, cryfhau cydweithrediad, a chynorthwyo pobl mewn perygl.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud
Mae’r Ganolfan yn canolbwyntio ar::
- Hybu ymchwil i hunanladdiad a hunan-niweidio
- Gwneud profiad bywyd yn ganolog
- Hysbysu polisi ac arferion
- Cynorthwyo cymunedau a gwasanaethau
- Datblygu ymchwilwyr y dyfodol
“Mae teimladau ac ymddygiadau hunanladdol a hunan-niweidio yn effeithio miloedd o bobl ledled Cymru, ag effeithiau parhaol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Bydd y Ganolfan hon yn sicrhau bod profiad bywyd yn llunio’r polisïau a’r systemau cymorth y bwriedir iddynt helpu.”
— Yr Athro Ann John