Apiau
Mae apiau’n gallu bod yn ffordd wych o ddod o hyd i ffyrdd diogel o ddelio â theimladau neu meddyliau hunanladdol.
Gwasanaeth 24/7 yn cynnig cymorth emosiynol am ddim a gwybodaeth/llenyddiaeth ynghylch iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl yng Nghymru.
I gael cymorth iechyd meddwl ar frys ffoniwch 111 a phwyso RHIF 2
ar agor 7pm-11pm bob dydd
i gefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth sydyn a allai fod yn hunanladdiad.
Gall unrhyw un gael mynediad at hwn, naill ai drwy hunan-atgyfeiriad neu drwy atgyfeiriad neu argymhelliad gan asiantaeth.
I gael gwybodaeth am fathau o broblemau iechyd meddwl, ble i gael cymorth, meddyginiaethau, triniaethau amgen, ac eiriolaeth.
Mae Childline yn darparu man diogel i blant a phobl ifanc hyd at 19 oed yn y DU lle maen nhw’n gallu bod yn nhw eu hunain a theimlo’n ddiogel yn siarad am unrhyw beth. Mae cwnselwyr wedi’u hyfforddi ar gael i wrando ac i gynnig cymorth a chefnogaeth ar gyfer unrhyw broblem neu bryder, mawr neu fach, 24 awr y dydd.
24/7
Nod Cymorth wrth Law yw helpu pobl sydd mewn profedigaeth yn annisgwyl oherwydd hynny. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n dod i gysylltiad â phobl mewn profedigaeth, i’w cynorthwyo i roi help iddynt ac i awgrymu sut y gallent hwy eu hunain gael cymorth os bydd ei angen arnynt.
Mae apiau’n gallu bod yn ffordd wych o ddod o hyd i ffyrdd diogel o ddelio â theimladau neu meddyliau hunanladdol.
Cymorth atal hunanladdiad hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd
Mae’r ap hwn yn adnodd atal hunanladdiad yn eich poced. Mae’n llawn gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu chi i gadw’n ddiogel yn ystod argyfwng. Fe allwch chi ei ddefnyddio os ydych chi’n cael meddyliau hunanladdol neu’n poeni am rywun arall a allai fod yn ystyried lladd eu hunain.