A group of young people looking at a golden sunset

Ymunwch â SHARE UK

Cofrestr Ymchwil SHARE UK

Sefydlwyd cofrestr ymchwil SHARE UK i ddysgu mwy am hunan-niweidio ac i wella cymorth a gwasanaethau. Rydym yn dymuno i bawb gael y cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil. Yn rhan o hyn, rydym wedi sefydlu cofrestr ymchwil SHARE UK i roi’r cyfle i bobl gytuno i glywed am fwy o astudiaethau yr ydym yn eu cynnal ac i gael y cyfle i gymryd rhan. Dyma’r gofrestr gyntaf o’i math yn y DU ac mae dros 2000 o bobl wedi ymuno â hi. Mae llawer o’n gwaith ymchwil yn digwydd ar-lein a gallwch gymryd rhan yn ddienw

Cyd-gynhyrchu gwaith ymchwil

Trwy ymuno â chofrestr ymchwil SHARE UK, bydd cyfle i chi gyd-gynhyrchu ein gwaith ymchwil. Gall hyn fod yn bethau fel helpu i ddatblygu cwestiynau ymchwil, dylunio holiaduron a rhoi adborth ar waith ymchwil ac adroddiadau. Mae’r cyd-gynhyrchu hwn gyda phobl â phrofiad bywyd yn ganolog i’r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae hyn yn golygu y gallwn ddylunio ymchwil sy’n canolbwyntio ar bethau sy’n bwysig i chi. Gallwn wthio am newidiadau i gymorth a gwasanaethau a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol


Ymunwch yma


Ewch i wefan SHARE UK

 

Cymorth a Chyngor