Pwy ydym ni

Canolfan Genedlaethol Cymru ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ydym ni, wedi’n lleoli ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ein Canolfan yn dod ag ymchwilwyr, pobl â phrofiad bywyd, ymarferwyr, a phartneriaid polisi ynghyd i ddeall hunanladdiad a hunan-niweidio yn well, ac i’w hatal.

“Rydym yn credu y gall tystiolaeth dda, o’i defnyddio’n dda, achub bywydau.

Mae popeth yr ydym yn ei wneud wedi’i wreiddio mewn tosturi, cydweithrediad, ac effaith byd go iawn.”

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil o ansawdd uchel i wella dealltwriaeth o hunanladdiad a hunan-niweidio ar draws cwrs bywyd, gan ddefnyddio data graddfa fawr, gwybodaeth am brofiad bywyd, a phartneriaeth agos gyda gwasanaethau.

Mae ein gwaith yn helpu i:

  • Nodi ffactorau risg a diogelu
  • Hysbysu polisi ac arferion
  • Gwella gwaith atal a chymorth ar lefelau lleol a chenedlaethol
  • Rhannu tystiolaeth mewn ffyrdd eglur a hygyrch

Rydym yn gweithio’n agos gyda chymunedau, gwasanaethau, a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod ymchwil yn arwain at newid ystyrlon.

Cyfarfod â’r Tîm

Dyma’r bobl sydd y tu ôl i Ganolfan Genedlaethol Cymru ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio a’r gwaith yr ydym yn ei wneud i wella ymchwil atal hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru.

Image of Ann John
Ann John
Cyfarwyddwr NCSR

Athro Iechyd Cyhoeddus a Seiciatreg ym Mhrifysgol Abertawe, ag arbenigedd mewn atal hunanladdiad a hunan-niweidio, iechyd meddwl ieuenctid, anhwylderau meddyliol cyffredin, epidemioleg, iechyd cyhoeddus a gwyddor data poblogaeth. Mae Ann John hefyd yn Brif Ymchwilydd ac yn gyd-gyfarwyddwr DATAMIND.

Image of Jonathan Scourfield
Jonathan Scourfield
Dirprwy Gyfarwyddwr NCSR.

Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Jonathan Scourfield hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr CASCADE, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant.

Image of Emily Grimstead
Emily Grimstead
Rheolwr Prosiect

Yn gyfrifol am gydgysylltu darpariaeth ar draws y Ganolfa, gan reoli llinellau amser, a dod â phartneriaid a ffrydiau gwaith ynghyd i sicrhau bod prosiectau yn cael eu darparu’n effeithiol.

Image of Amanda Marchant
Amanda Marchant
Cymrawd Ymchwil

Research Fellow at Swansea University specialising in children and young people’s mental health, suicide prevention and self-harm.

Image of Marcos Del Pozo Banos
Marcos Del Pozo Banos
Darlithydd ac ymchwilydd

Wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe, gan ysgogi integreiddiad dysgu peirianyddol ym maes epidemioleg yn y Ganolfan Genedlaethol.

Image of Keith Lloyd
Keith Lloyd
Athro Seiciatreg Glinigol a phennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe

Yn arbenigo mewn iechyd meddwl cyhoeddus, epidemioleg seiciatrig, hunanladdiad a hunan-niweidio a gwybodeg iechyd.

Image of Ioan Humphreys
Ioan Humphreys
Uwch Swyddog Ymchwil ac Economegydd Iechyd

Wedi’i leoli yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, ag arbenigedd mewn economeg iechyd, ymchwil ansoddol a dadansoddi data.

Image of Neil Ingham
Neil Ingham
Executive director for Wales of the Samaritans & Co-Lead of Experience to Experts advisory group

Yn cefnogi cydweithrediad polisi ac ymarfer.

Image of Rhiannon Evans
Rhiannon Evans
Athro Gwyddor Gymdeithasol ac Iechyd

Wedi’i lleoli yn DECIPHer yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, ag arbenigedd mewn gwella iechyd meddwl a llesiant meddyliol ac atal hunanladdiad a hunan-niweidio yn y lleoliad gofal.

Image of Gareth Rodrique-Davies
Gareth Rodrique-Davies
Athro Seicoleg

O Brifysgol De Cymru ag arbenigedd mewn camddefnyddio sylweddau.

Image of A. Jess Williams
A. Jess Williams
Lecturer & Co-Lead of Experience to Experts advisory group

Darlithydd ar Atal Hunanladdiad ac ymchwilydd sy’n arbenigo mewn hunan-niweidio, hunanladdiad, a phobl ifanc LHDTC+. Jess Williams yw Cydgysylltydd y Panel Pobl â Phrofiad Bywyd hefyd.

Image of Sydney Chen
Sydney Chen
Ymchwilydd

Yn gweithio ym maes ymchwil atal hunanladdiad a hunan-niweidio, gan ganolbwyntio ar dueddiadau hunanladdiad lefel poblogaeth, anghydraddoldebau, a thystiolaeth perthnasol i bolisi

Image of Nancy Meligy
Nancy Meligy
Ymchwilydd a gwyddonydd data

Yn gweithio ym maes ymchwil atal hunanladdiad a hunan-niweidio, gan ganolbwyntio ar blant a phobl ifanc a phoblogaethau amrywiol cymysg.

Image of Tahsin Saira
Tahsin Saira
Swyddog Ymchwil

Yn canolbwyntio ar ddefnyddio dysgu peirianyddol i wella dealltwriaeth o iechyd meddwl plant a phobl ifanc, â phwyslais cryf ar y defnydd teg a moesegol o ddeallusrwydd artiffisial.

Image of Kenvil Souza
Kenvil Souza
Swyddog Ymchwil

Yn cyfrannu at ddatblygu a dilysu ffenoteipiau iechyd meddwl ac ymchwil hunanladdiad a hunan-niweidio ar draws y Ganolfan.

Image of Brittany Nocivelli
Brittany Nocivelli
Cydymaith Ymchwil

Yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar ymchwil atal hunan-niweidio a hunanladdiad yn y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion a chanolfan DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd.

Image of Ondřej (Andrew) Burýšek
Ondřej (Andrew) Burýšek
Ysgoloriaeth ymchwil doethuriaeth wedi’i hariannu gan NCSR

Yn canolbwyntio ar ddatblygu Gefell Digidol Cenedlaethol i wella dealltwriaeth o hunan-niweidio ac ymddygiadau hunanladdol, gan gynorthwyo gwaith atal hunanladdiad wedi’i hysbysu gan dystiolaeth.

Image of Zoë Barron
Zoë Barron
Ysgoloriaeth ymchwil doethuriaeth wedi’i hariannu gan NCSR

Linking Real-Time Suspected Suicide Surveillance and population-level data to enable timely and comprehensive research on suicide risk factors, with domestic abuse as an example use case.

 

Image of Adam Heywood
Adam Heywood
Cydgysylltydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Yn cefnogi gweithgarwch y Ganolfan â phwyslais ar ymgysylltu allanol, ochr yn ochr â chymorth gweinyddol.

Image of Bethanie David
Bethanie David
Gweinyddwr Prosiect

Yn darparu cymorth a chydgysylltiad gweinyddol ar draws gweithgarwch y Ganolfan, gan gefnogi’r tîm cyfan ar brosiectau ar bob cam o gynllunio hyd at ddarparu.

Cymorth a Chyngor