BS 30480 Hunanladdiad a’r Gweithle
Mae’r safon hon yn cynnig fframwaith i sefydliadau fynd i’r afael â hunanladdiad.
Mae’r safon hon yn eich cynorthwyo i:
- Nodi a rheoli perygl o hunanladdiad yn y gweithle.
- Cryfhau polisïau a diwylliant yn y gweithle o ran ymwybyddiaeth o hunanladdiad.
- Cael sgyrsiau hyderus, cyson a thosturiol am hunanladdiad mewn gweithleoedd.
- Ymwreiddio prosesau eglur i gefnogi a chyfathrebu â staff a theuluoedd yn dilyn profedigaeth oherwydd hunanladdiad.
Llun: Trwy garedigrwydd https://www.bsigroup.com/

