Man yn yr APD oedd ‘Be Heard’ i bobl ifanc a oedd wedi’u heffeithio gan broblemau iechyd meddwl naill ai’n bersonol neu drwy deulu/ffrindiau, fynegi eu teimladau a’u safbwyntiau ar y defnydd o fathau lluosog o ddata ar gyfer ymchwil iechyd meddwl ac i ddysgu am waith yr ADP.
Yn rhan o’r prosiect hwn, datblygwyd ‘Be Heard’ i’w bartner #BeSeen.
Ynglŷn â #BeSeen
Mae ein gwaith ymgysylltu parhaus wedi amlygu cyflymder newid yn y ffordd y mae pobl ifanc yn cyfathrebu ar-lein. Mae fforymau sgwrsio a oedd yn boblogaidd ar un adeg wedi cael eu disodli gan blatfformau rhwydweithio cymdeithasol seiliedig ar ddelweddau. Mae platfformau cyfryngau cymdeithasol seiliedig ar ddelweddau fel Instagram, Tumblr a TikTok wedi dod yn gynyddol boblogaidd yn rhannol oherwydd eu bod wedi’u canolbwyntio ar rannu delweddau a fideos.
Adroddir bod Instagram yn rhan bwysig o fywydau beunyddiol 44% o bobl ifanc. Mae poblogrwydd cynyddol platfformau seiliedig ar ddelweddau wedi dod â phwysau cynyddol ar bobl ifanc i ‘gael eu gweld’ mewn ffordd benodol.
Esboniwn
Mae’r newid i sut mae pobl ifanc yn cyfathrebu wedi arwain iddynt deimlo’n awyddus i rannu eu straeon, y maent yn ei wneud yn bennaf drwy ddelweddau, ffotograffiaeth, a fideos bellach.
Ar yr un pryd, mae cysylltiad cyflym o wybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau, fel iechyd â chyfryngau cymdeithasol, wedi arwain at obaith o oes newydd o ymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc.
Daeth y prosiect hwn â phobl ifanc ynghyd â gweithwyr proffesiynol o feysydd y celfyddydau, gwyddor ddata a meddygaeth i ddatblygu ‘Be Seen’. Cynhaliwyd cyfres o weithdai gyda phobl ifanc 16-24 oed, gan gynnwys yn benodol y rhai â phrofiad o broblemau iechyd meddwl, sydd wedi hunan-niweidio, pobl draws, a Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches. Galluogodd y gweithdai hyn i bobl ifanc fod yn fwy dadansoddol am eu straeon creadigol eu hunain.
Trafodwyd materion fel perchnogaeth o ddelweddau, eu teimladau am y defnydd o’u data, sy’n aml yn cael eu creu wrth iddynt fyw eu bywydau beunyddiol, ar gyfer ymchwil a’r tensiwn rhwng y bwriad y tu ôl i neges a’i ddehongliad gan y rhai sy’n edrych arno. Fe wnaethant archwilio opsiynau amgen i ffotograffiaeth gan gynnwys mannau creadigol mewn realiti rhithwir.
Ein gweledigaeth yw i leisiau pobl ifanc gael eu gweld a dylanwadu ar y defnydd o’u data a’r sgwrs gyhoeddus yn ymwneud â’u defnydd o ddelweddau i fynegi iechyd meddwl.
Dewch yn Flogiwr BeSeen
Blog Lluniau
Mae Blog Lluniau BeSeen yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc rannu eu delweddau/creadigaethau i gynorthwyo pobl eraill a allai fod yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.
Ysgrifennu i ni
Rydym yn croesawu unrhyw un rhwng 16 a 24 oed, ac sy’n byw yn y DU i ysgrifennu i ni. I ddod yn flogiwr lluniau #BeSeen, anfonwch e-bost atom yn [email protected].
Pynciau i’w trafod
Mae gennym ddiddordeb mewn amrywiaeth o wahanol bynciau wedi’u hadlewyrchu mewn delweddau ac yn ymwneud ag iechyd meddwl pobl ifanc. Gall y rhain amrywio o rannu eich gwaith celf eich hun, neu lun y gwnaethoch ei dynnu sy’n ymwneud â chi mewn rhyw ffordd, neu yr ydych yn teimlo allai hefyd ymwneud ag eraill. Mae croeso i chi ysgrifennu ychydig linellau yn esbonio’r hyn y mae’r ddelwedd honno’n ei olygu i chi.
A oes gennych chi gwestiwn yr hoffech ei ofyn i ni? A oes gennych chi gwestiwn ymchwil yr hoffech i ni ymchwilio iddo?
Defnyddiwch ein ffurflen gyswllt i gysylltu.